Cafodd gwobr Talent Yfory yng ngornest Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni ei hennill gan y Prentis Uwch Heledd Roberts, sydd wedi'i disgrifio gan ei chyflogwr fel "chwa o awyr iach".
Mae Heledd, sy'n 24 oed o Gaerfyrddin, wedi gweithio i FUW Insurance Services Ltd, sy'n un o brif froceriaid yswiriant amaethyddol arbenigol y Deyrnas Unedig, ers tair blynedd. Ac ar hyn o bryd mae wedi'i lleoli yn swyddfa Rhuthun yng Ngogledd Cymru.
Ymunodd â'r cwmni yn ystod y pandemig, gan helpu i ddelio â gwaith sawl swyddfa. A chafodd ei dyrchafu i arwain y gwaith o drin cyfrifon oherwydd ei brwdfrydedd i ddysgu ac ysgogi eraill.
Wrth ymateb i'w gwobr, dywedodd Heledd: "Dw i wedi synnu'n fawr fy mod i wedi ennill y wobr hon, ac yn ddiolchgar iawn am y fraint sy'n cydnabod yr holl nosweithiau hwyr a phenwythnosau dw i wedi'u hymroi i'r Brentisiaeth Uwch 'dw i'n ei chwblhau cyn hir.
"Yn sicr, mae wedi bod yn werth yr holl waith oherwydd dw i wedi cael llawer o gefnogaeth anhygoel, a gall prentisiaeth fynd â chi gymaint ymhellach yn eich gyrfa.
"Dw i’n gredwr mawr mewn effeithlonrwydd a chyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau, sydd nid yn unig yn helpu'r busnes ond yn helpu'r staff hefyd. "Dw i'n mwynhau fy ngwaith yn fawr, yn enwedig ochr reoli'r swydd, a hoffwn i gael swydd barhaol fel swyddog gweithredol cyfrifon yn y dyfodol."
Dywedodd Heledd ei bod hi'n noson fwy arbennig, gan fod ei mentor hyfforddi, Gareth Lewis o ALS Training, hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y categori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru, sy'n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae'r Gwobrau'n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Dywedodd Caryl Roberts, rheolwr datblygu busnes FUW Insurance Services Ltd, fod Heledd yn "eithriadol", gan ychwanegu: "Mae'n barod i herio a moderneiddio rhai prosesau sydd wedi ennill eu plwyf ac mae ganddi awydd mawr i gyflwyno dulliau newydd o ddatrys problemau."
Cwblhaodd Heledd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn, ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol – a’r ddwy brentisiaeth yn cael eu darparu gan ALS Training.
Mae hi wedi cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb y busnes trwy arwain prosiect i gyflwyno proses e-fasnach electronig, darparu arbenigedd gwerthfawr ar brosesau archwilio mewnol, cynorthwyo â gwaith marchnata a chodi arian, ac mae wrth ei bodd fel mentor i staff newydd.
Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: "Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Heledd ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.
"Mae'n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny'n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid."
Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: "Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw'n rhan hanfodol o'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu."
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.