Mae Anne, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau, yn "ymgorfforiad o ddysgu gydol oes"

7 Mar 2024 News Learners

Mae Anne Reardon-James yn cael ei disgrifio gan ei chyflogwr fel "ymgorfforiad o ddysgu gydol oes", a bod ganddi syched gwirioneddol am wybodaeth y mae'n ei rhannu wedyn i ysbrydoli ei dysgwyr a'i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu ôl-16 yng Nghymru.

Mae Anne, 46, sy'n byw yn y Barri, yn Gynghorydd Dysgu gyda Panda Education and Training, gan ddarparu Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu, mewn partneriaeth ag ALS Training.

Cafodd ei gwobrwyo am ei hymrwymiad pan enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn 2023 am Sgiliau Gwaith.

Bellach mae Anne wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.

Mae'r gwobrau, sy'n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ar hyn o bryd mae Anne yn gweithio tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, ac mae ganddi MA mewn Addysg, TAR a gradd mewn Gwyddorau Ymddygiadol. Mae hi hefyd yn Gymrawd o SET, ac yn Gymrawd Cyswllt o'r CIPD a HE Advance.

Mae hi wedi gweithio mewn addysg ôl-16 ers 17 mlynedd, gan addysgu llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned, cyflwyno hyfforddiant sgiliau hanfodol i ddysgwyr cyflogedig, a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer y gwasanaethau prawf a charchardai.

Yn angerddol am Ddysgu Gydol Oes, mae Anne yn ysbrydoli ei dysgwyr, gan arddangos technegau a dulliau addysgu a dysgu y gallan nhw eu defnyddio yn eu hymarfer eu hunain. 

Mae Anne yn cynnal gweithdai hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella'r broses ddysgu, mae'n cynnal cyfarfodydd mentora misol ac yn darparu cymorth personol wedi'i deilwra i ddysgwyr ledled Cymru.

Mae hi'n olygydd ar y cyfnodolyn Research and Practices in Adult Literacies, yn cyhoeddi blogiau, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac arferion da â grwpiau rhwydweithiau ar-lein.

Mae Anne hefyd yn wirfoddolwr brwd, yn addysgu Saesneg i ffoaduriaid Wcráin ac yn eu cefnogi yn ei chartref ei hun, yn ogystal â siopa dros gleientiaid sy'n gaeth i'r tŷ ac ymweld â nhw.

Dywedodd Rachel Arnold, cyfarwyddwr Panda Education and Training: "Mae Anne yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ei dysgwyr. Mae'n byw ac yn anadlu ein gwerthoedd craidd - parch, ansawdd ac arloesedd."

Dywedodd Anne: "Mae'n wych gallu helpu i fentora a chefnogi pobl i oresgyn eu rhwystrau a dw i'n ceisio dod o hyd i ffyrdd gwahanol o wneud hynny yn barhaus.  Dw i'n hyrwyddo ac yn codi statws addysg oedolion lle bynnag y galla i."

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Anne a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol. “Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol.

“Mae eu dycnwch, eu hangerdd a'u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i'n dymuno pob lwc i bob un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol - ar gyfer y gwobrau a'u hymdrechion yn y dyfodol."‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: "Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.

“Mae prentisiaethau'n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy'n newid yn gyson.

“Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop