Mae angerdd Laura dros ddysgu a gwaith tîm wedi arwain at ddyrchafiadau

15 Jan 2024 Blog Learners

Mae angerdd dros ddysgu wedi trawsnewid Laura Chapman o fod yn berson swil yn ei harddegau i fod yn arweinydd tîm hyderus gyda MotoNovo Finance yng Nghaerdydd.

Mae Laura yn gyn-ddisgybl o Ysgol Maesteg, sydd bellach yn 21 oed. Ymunodd â'r cwmni benthyciadau a chyllid car ar gontract cyfnod penodol o 18 mis yn 17 oed ar ôl dewis ennill cyflog a dysgu drwy brentisiaeth.

Aeth o nerth i nerth, o gael Diploma BTEC Lefel 2 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol i Brentisiaeth mewn TG, Meddalwedd, Gwe a Thelathrebu Proffesiynol a Thystysgrif Fersiwn 4 ITIL a bellach mae ganddi Dystysgrif ILM Lefel 3 mewn Rheoli gydag ALS Training.

Mae Laura nawr wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn y categori Prentis y Flwyddyn.

Mae'r gwobrau, sy'n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

"Ar gyfer pob cymhwyster, rwyf wedi gallu cymhwyso'r hyn rwyf wedi'i ddysgu yn uniongyrchol i'm gwaith o ddydd i ddydd," esboniodd Laura. "Maen nhw'n mynd law yn llaw, felly mae'n gwneud synnwyr i barhau i ddysgu. Rwyf eisoes wedi penderfynu gwneud Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli!"

Mae'r wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygodd wedi rhoi hwb i'w hyder i arwain tîm o wyth dadansoddwr, i ddatrys materion TG i fwy o gwsmeriaid ac i gael effaith gadarnhaol ar y busnes.

Yn fuan ar ôl ei dyrchafiad i fod yn arweinydd tîm, fe lwyddodd i glirio ôl-groniad o waith trwy gyflwyno dangosfwrdd i flaenoriaethu gwaith. Mae hefyd wedi cyflwyno camau i wella morâl a pherfformiad staff ac wedi cynyddu cynhyrchiant 50% drwy annog timau i gydweithio a chynhyrchu syniadau.

Mae Laura hefyd yn gweithio gyda staff datblygu talent y cwmni ac ALS Training i hyrwyddo prentisiaethau i'w thîm.

"Rwy'n rhannu fy stori gyda fy nhîm ac yn sôn wrthyn nhw pa mor ddefnyddiol yw prentisiaethau," meddai. "Maen nhw'n ffordd dda iawn o ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch gyrfa."

Dywedodd Francesca Webster, ymgynghorydd gyrfaoedd cynnar gyda MotoNovo Finance, bod taith lwyddiannus Laura yn "anhygoel".

"Mae Laura wedi cwblhau tri chymhwyster proffesiynol, yn astudio ei phedwerydd ac wedi ennill tri dyrchafiad, a bellach yn rheoli tîm o wyth dadansoddwr gwasanaeth desg TG, i gyd mewn llai na phedair blynedd!" meddai. "Allwn ni ddim aros i weld beth mae Laura yn ei gyflawni nesaf."

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Laura a'r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

"Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o'n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a'u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ysbrydoledig. Rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol - ar gyfer y gwobrau a'u hymdrechion yn y dyfodol."

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: "Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a'r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.   Mae prentisiaethau'n chwarae rhan bwysig o ran cefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, ac yn sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg iawn i ddiwallu anghenion y diwydiant, sy'n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn."

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop