Dysgwr o ALS yn cael ei goroni'n Brentis Cyllid y Flwyddyn

11 Jun 2024 News Learners

Mae Gwobrau Cyllid Cymru yn gydnabyddiaeth flynyddol o'r unigolion a'r busnesau talentog yn y byd ariannol yng Nghymru.

Ymhlith yr enillwyr eleni - oedd yn cynnwys cyfarwyddwyr ariannol, gweithwyr cyflogres a thimau busnes - oedd Jed Lewis, a gafodd ei goroni'n Brentis Cyllid y Flwyddyn.

Mae Jed, sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru, wedi bod yn gweithio tuag at ei gymwysterau cyllid gyda'r darparwr hyfforddiant ALS.

Yn wreiddiol, cafodd ei recriwtio fel prentis yn y gweithredwyr rheilffordd er mwyn ymgymryd â chymhwyster Lefel 2 mewn Cyfrifeg (AAT).

Ar ôl iddo ei gwblhau, aeth ymlaen at gymhwyster Lefel 4. Er ei bod yn anarferol i ddysgwyr symud ymlaen fel hyn, roedd ymroddiad ac etheg waith Jed, ynghyd ag ansawdd ei gyflawniad ar Lefel 2, yn rhoi hyder i'w diwtoriaid a'i reolwr llinell mai dyma'r llwybr cywir iddo.

Mae Jed bellach yn gweithio tuag at gwblhau'r cymhwyster gyda'r gobaith o symud ymlaen at ardystiad Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Lefel 4.

Dywedodd Vanessa Hope, Rheolwr Datblygu Corfforaethol yn ALS: "Mae Jed wedi dangos ymroddiad anhygoel i'w waith, gan symud ymlaen yn hyderus trwy ei astudiaethau ac arddangos talent go iawn am y pwnc.

"Gallwn ni ddim meddwl am berson mwy haeddiannol o dderbyn teitl Prentis Cyllid y Flwyddyn. Rydyn ni'n gwybod taw dyma fydd y cyflawniad mawr cyntaf mewn gyrfa lwyddiannus iawn i Jed."

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Ken Poole, Cadeirydd panel beirniadu Gwobrau Cyllid Cymru: "Mae enillwyr eleni wedi dangos talent ac ymrwymiad rhyfeddol i hyrwyddo'r sector cyllid yng Nghymru. Mae eu cyflawniadau nid yn unig yn amlygu rhagoriaeth unigol a chorfforaethol ond hefyd yn tanlinellu natur fywiog a gwydn ein cymuned gyllid."

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop