Dysgwyr ACT ac ALS wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau prentisiaeth

13 Dec 2023 News Learners

Dysgwyr ACT ac ALS wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau prentisiaeth

Cyhoeddwyd enwau’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru ac mae nifer o ddysgwyr a chyflogwyr partner wedi cael eu cydnabod ar y rhestr fer.

Cynhelir Gwobrau Prentisiaethau Cymru fis Mawrth nesaf ac mae'n dathlu cyfraniad unigolion, darparwyr a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth ddatblygu dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

O'r naw categori gwobrwyo, mae dysgwyr o ACT, yn ogystal â'i chwaer gwmni ALS a'u partneriaid, wedi'u henwebu ar draws chwech ohonynt.

Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae Jessica Williams, dysgwr ACT, sydd wedi’i henwebu yng Nghategori Prentis Uwch y Flwyddyn.

Mae Jessica newydd gwblhau ei Phrentisiaeth Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, ac mae wedi dangos ymrwymiad anhygoel i'w dysgu, drwy gydol y broses, er gwaethaf blynyddoedd anodd.

Yn union wrth iddi ddechrau ar ei thaith dysgu seiliedig ar waith, bu Jessica mewn damwain arswydus a'i gadawodd yn wynebu heriau anodd, gan gynnwys nam ar ei chlyw a phroblemau lleferydd.

Er gwaethaf hyn, mae hi wedi rhagori yn ei chwrs ac wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod ei phrentisiaeth yn gweithio iddi hi.

Mae Laura Chapman, dysgwr ALS, yn y ras ar gyfer Prentis y Flwyddyn.

Mae Laura wedi bod ar daith brentisiaeth drawsnewidiol ers ei harddegau. Bellach yn 21 oed, mae hi wedi cwblhau tri chymhwyster ac mae bellach ar ei phedwerydd.

"Ar gyfer pob cymhwyster, rwyf wedi gallu cymhwyso'r dysgu'n uniongyrchol i'm rôl yn syth," esboniodd Laura. "Maen nhw'n mynd law yn llaw, felly mae'n gwneud synnwyr i barhau i ddysgu. Rwyf eisoes wedi gosod fy ngolygon ar Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli."

Mae dau ddysgwr ALS - Heledd Roberts a Katie Trembath - yn rownd derfynol y categori Talent Yfory.

Dywedodd Cyfarwyddwr ALS, Sarah John: "Mae ALS Training wedi bod yn darparu datrysiadau dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr a chyflogwyr ers dros 20 mlynedd, mae ein hymrwymiad i wella bywydau trwy ddysgu yn cael ei ddangos gan yr unigolion anhygoel y mae ALS wedi'u cefnogi sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Prentisiaeth

"Llongyfarchiadau i'n holl gystadleuwyr a phob lwc!"
 
Mae Grŵp PHS (Caerffili) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi eu henwebu ar gyfer Cyflogwr Mawr a Macro Cyflogwr y Flwyddyn.

Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT: "Rydym yn hynod falch o bob un o'n dysgwyr a'n cyflogwyr partner. Mae eu hymrwymiad i ddysgu yn amlwg yn y gwaith y maent yn ei wneud bob dydd.

"Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i gydnabod dim ond carfan fach o'r unigolion sy'n rhan o’r sbectrwm eang o bobl sy'n ymgymryd â phrentisiaeth.

"Mae ein dysgwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol, ar wahanol gamau yn eu gyrfa ac yn arddangos amrywiaeth eang o sectorau - gall unrhyw un ddysgu sgil newydd, ar unrhyw adeg o'u bywydau, ac mae'n wych gweld cymaint o'n dysgwyr a'n partneriaid yn ein cynrychioli yn y gwobrau. Pob lwc, rydyn i’n edrych ymlaen yn fawr at y seremoni ym mis Mawrth."

 

 

 

 

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop