"Mae gweithio gydag ALS yn wych!"

15 Dec 2022 Blog Learners

Mae Alisha Edwards o Hengoed Caerffili wedi gweld cynnydd aruthrol yn ei gyrfa ers cwblhau prentisiaeth gydag ALS.  O fewn y 12 mis diwethaf, mae Alisha wedi cael ei dyrchafu'n Gyfarwyddwr, cwblhau ei diploma a dod yn Llywydd Novus (Grŵp Proffesiynol ifanc CII) yn ogystal ag ysgrifennydd pwyllgor CII Caerdydd.

Alisha, 34,  yw Cyfarwyddwr BPW Insurance Services Limited, brocer yswiriant annibynnol sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd.  Fel Cyfarwyddwr, mae ei rôl yn cynnwys rheoli'r Tîm Gweithredol Cyfrifau yn ogystal â  rheoli ei phortffolio ei hun o gleientiaid a darparu eu datrysiadau yswiriant.  Yn awyddus i barhau i ddatblygu ei sgiliau a'i gwybodaeth o fewn y sector, dechreuodd Alisha ar Ddiploma Uwch mewn Yswiriant gydag ALS.

"Mae gweithio gydag ALS yn wych! Mae eu disgwyliadau'n glir ac mae'r cyfarfodydd cefnogi rheolaidd yn ddefnyddiol iawn i dracio cynnydd drwy'r cymhwyster.

Dewisodd Alisha uwchsgilio yn y gwaith gyda phrentisiaeth, gan ei fod yn ei galluogi i feithrin sgiliau a gwybodaeth ymarferol wrth weithio yn ei rôl.

"Roedd y llwybr prentisiaeth yn caniatáu imi gwblhau 6 uned ac NVQ oedd yn llawer haws i mi gan fod darparu tystiolaeth ymarferol yn haws, mae’n dibynnu ar arddull dysgu pawb am wn i.  Mae amser ac arian yn dynn mewn busnes, felly os oes gennych asesydd da fel roedd gen i o ALS, sy’n darparu enghreifftiau o'r dystiolaeth y mae'n rhaid i chi ei ddarparu ar gyfer y cymhwyster, mae'n arbed cymaint o amser ac yn caniatáu ichi symud ymlaen at dasg arall.  Peth arall oedd yn ddefnyddiol i mi oedd gofyn i aelodau fy nhîm gwblhau holiadur ar ba mor effeithiol oeddwn i fel rheolwr. Tynnodd fy sylw at feysydd i’w gwella a gall adborth fel hyn ond eich gwneud yn rheolwr gwell a chyfrannu at fod eisiau gwella eich hun fel person proffesiynol ac yn bersonol.  "

Roedd Alisha yn credu bod y gefnogaeth a  gafodd gan ALS yn amhrisiadwy ac mae'n argymell i bawb yn y gweithle ystyried ymgymryd â phrentisiaeth i uwchsgilio.

"Bydden i 100% yn argymell prentisiaeth i bobl eraill. Heb unrhyw amheuaeth, mae wedi cynyddu fy ngwerth yn y gweithle. Hefyd, dwi nawr  yn gallu helpu a chefnogi fy nhîm drwy'r un cymwysterau." 

Mae Alisha eisoes wedi dechrau gweld budd ei chymhwyster gan iddi ennill Gwobr Hedron Networks Rising Star 2022 yn ddiweddar. Mae'r wobr yn cydnabod unigolion sydd wedi cyflawni cynnydd sylweddol nid yn unig yn eu rôl bresennol, ond hefyd yn eu datblygiad proffesiynol a'r diwydiant ei hun.

Er gwaethaf ei chasgliad anhygoel o gyflawniadau, mae  Alisha dal i edrych at y dyfodol.

"Rwy'n dal i fod eisiau parhau â'm datblygiad proffesiynol a chynllunio i fod wedi cymhwyso gydag ACII yn y 2 flynedd nesaf. Rwy’ hefyd am ennill fy nghymrodoriaeth mewn yswiriant (FCII) erbyn i mi droi’n 40!

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Am ragor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i: https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu galwch 03000 603000

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop