Kiera’n goresgyn anawsterau gan wneud prentisiaeth er mwyn helpu cleifion

13 Oct 2022 News Learners

Kiera’n goresgyn anawsterau gan wneud prentisiaeth er mwyn helpu cleifion

Mae technegydd fferyllol o’r enw Kiera Dwyer wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon.

Mae Kiera, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, sydd â Syndrom Asperger ac Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i fferyllwyr yn Fferyllfa Sheppards, sy’n rhan o grŵp Avicenna, i ymdrin â chleifion. O ganlyniad i hyn, mae’r fferyllfa wedi cael sgôr o hyd at 100% gan gleifion.

Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegwyr Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy’r corff dyfarnu Pearson, a City & Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth.

Cyflwynwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chefnogaeth ALS Training.

I gydnabod ei hymroddiad i ddysgu, mae Kiera wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Er mwyn dod dros y straen gweledol a achosir wrth ddarllen testun ar bapur gwyn, buddsoddodd Kiera mewn pad Irlen Pukka porffor ac ailysgrifennu darnau hanfodol o wybodaeth yr oedd angen iddi eu hadolygu. Roedd hyn yn golygu ei bod yn gallu rhoi’r gorau i weithio ar amser rhesymol yn hytrach na bod wrth y gwaith tan 3am.

Dechreuodd ar ei phrentisiaeth ychydig cyn y pandemig a daliodd ati i weithio ar reng flaen y GIG yn y fferyllfa i sicrhau bod cleifion yn derbyn meddyginiaethau hanfodol.

Yn ogystal ag ymdopi â’r pandemig, bu’n rhaid i Kiera ddelio â nifer o ddigwyddiadau teuluol trawmatig, gan gynnwys colli ei thad-cu a oedd yn annwyl iawn ganddi. Er gwaethaf hyn, ni chollodd yr un o ddyddiadau cau ei chymwysterau.

“Roeddwn i eisiau gwneud prentisiaeth er mwyn gallu cymhwyso’r wybodaeth rydw i’n ei dysgu, yn cynnwys sut y gall cyflyrau meddygol effeithio ar gleifion a sut mae gwahanol ddosbarthiadau cyffuriau’n gweithio mewn gwahanol ffyrdd,” esboniodd Kiera.

Dywedodd Rhiannon Burke, rheolwr yn Fferyllfa Sheppards: “Mae Kiera wedi rhoi ei chefnogaeth gyson i’r fferyllfa trwy dynnu’r pwysau oddi ar y fferyllwyr a helpu i leihau eu llwyth gwaith nhw.

“Mae hi’n haeddu cael ei chydnabod am fod yn benderfynol, yn ymroddedig a dangos ymrwymiad, ac am fod mor fedrus wrth ennill ei chymhwyster.”

Wrth longyfarch Kiera a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

 

 

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop