Fel cyflogwr mae'r cyfle i siapio a datblygu person yn weithiwr sy'n gallu cynnig yr holl sgiliau a gwerthoedd sydd eu hangen arnoch yn amhrisiadwy. Trwy ddarparu prentisiaeth i unigolyn gall roi ffordd gost-effeithiol i'ch busnes o gyflogi staff newydd, a all ddysgu gwneud pethau eich ffordd chi, tra'n dysgu yn y gweithle a gweithio tuag at gymhwyster er mwyn ehangu eu sgiliau.
Er mwyn cefnogi'r angen hwn mae ALS yn cynnig dewis o raglenni prentisiaeth i gyflogwyr a'u prentisiaid, sy'n ffordd arbennig o gyfuno dysgu gyda’r byd gwaith go iawn.