O reoli prosiect i alluogi staff rheng flaen i achub bywydau. Sut y newidiodd swydd y prentis hwn dros nos

12 Oct 2020 News Learners

Roedd Richard Bowen, o Danescourt, Caerdydd, wedi bod yn gweithio tuag at ei brentisiaeth mewn rheoli prosiect yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym. Drwy ddefnyddio’r sgiliau roedd wedi’u dysgu yn ystod ei brentisiaeth, bu modd iddo newid ei swydd i helpu gweithwyr rheng flaen i ddal ati gyda’u dyletswyddau hanfodol.

Rhoddwyd swydd dydd i ddydd arferol Richard o reoli Prosiect Ysgolion y 21ain Ganrif  i’r neilltu, a daeth yn rhan o’r tîm ymateb i COVID-19, gan sicrhau bod plant pob gweithiwr allweddol yn cael gofal plant fel bod eu rhieni neu ofalwyr yn gallu parhau i weithio yn y gwasanaethau allweddol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn swyddi a sgiliau gwerth £40m yn ddiweddar a fydd yn hanfodol i gymell cyflogwyr i recriwtio a chadw hyd at 5,000 o brentisiaid, fel Richard.

Ar hyn o bryd, mae’r gŵr 23 oed yn astudio ar gyfer Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Prosiect gyda ALS ac mae’n falch iawn o fod wedi chwarae rhan allweddol yn anterth pandemig Covid-19. Mae bellach yn hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith fel cyfle hollbwysig i ennill sgiliau swydd penodol sy’n hanfodol i lwyddo yn y byd gwaith.

Meddai: “Roedd pawb yn chwysu chwartiau ym mhob adran yn y cyngor. Ein gwaith ni oedd sicrhau bod gan yr holl deuluoedd bregus a phlant gweithwyr allweddol le gofal plant yn un o’r hyb ysgolion. Roedd hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallai gweithwyr allweddol fynd i’r ysgol a helpu pethau i redeg mor rhwydd â phosibl yn ystod y clo mawr.”

“Roedd yn waith caled a’r oriau’n hir, ond roedd y cyfan yn werth chweil. Cefais y cyfle i ddod i gysylltiad â phobl wirioneddol anhygoel a oedd mor ddiolchgar am y cymorth wnaeth eu helpu nhw i wneud eu gwaith – gwaith a oedd yn newid bywydau.

“Newidiodd fy swydd dros nos, ond fel tîm rydym i gyd yn gwybod bod yn rhaid i ni gyd-dynnu. Roedd fy nhîm i’n gweithio fel y cyswllt rhwng ysgolion a gwasanaethau gofal plant ac yn helpu hefyd drwy ffonio’r rhai a oedd yn agored i newid o fewn y gymuned a oedd yn derbyn pryd ar glud, a oedd yn brofiad gwerth chweil. Efallai mai fi fyddai’r unig berson y bydden nhw wedi siarad ag ef y diwrnod hwnnw. Roedd un fenyw a oedd yn dioddef dementia difrifol yn fy nghofio bob wythnos ac roedd hynny yn falm i’r enaid.”

Mae Richard bellach yn rhan o dasglu adfer yr awdurdod lleol, ac yn gweithio gydag uwch dîm arweinyddiaeth baratoi fel bod ysgolion yn gallu ailagor yn llawn ym mis Medi.

Ychwanegodd: “Roeddwn i’n awyddus i ychwanegu ar fy nghymwysterau ar ôl gorffen fy ngradd. Prentisiaeth oedd yr opsiwn perffaith i mi gan roi cyfle i mi ddechrau fy ngyrfa yn ogystal â dal ati i ddatblygu fy sgiliau.”

Meddai ei reolwr llinell Lisa Howell, Rheolwr Busnes a Threfnu Ysgolion: “Mae Richard wedi dangos ei werth go iawn. Mae gennym ni safonau uchel iawn ar gyfer ein swyddi swyddogion graddedig, ac roedden ni’n gwybod yn iawn wrth ei gyfarfod y gallai wynebu’r her. Yn ystod y cyfnod hwn, mae pethau wedi bod yn anodd, ond mae wedi rhagori. Mae uwch aelodau’r tîm wedi rhoi sylwadau ar ei broffesiynoldeb a chymaint y mae wedi datblygu mewn cyfnod byr iawn.”

“Maen nhw’n dweud ei bod hi’n cymryd argyfwng i ddod at ein gilydd. Mae Richard bellach yn aelod allweddol o’n tasglu adfer a bydd yn mynd â’i sgiliau newydd gyda fe wrth i ni ddechrau dod o hyd i normal newydd ac wrtho iddo ddychwelyd at ei waith yn rheoli prosiectau.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae mor galonogol i weld prentisiaid fel Richard ac yn gwneud gwaith mor dda mewn cyfnod mor anodd. Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar ein heconomi, ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau angenrheidiol, eu bod yn gallu addasu ac yn barod i weithio i helpu ein hadferiad economaidd.

“Dyma pam y gwnaed y cyhoeddiad diweddar am y pecyn cymorth gwerth £40m a fydd yn gwbl hanfodol i helpu cyflogwyr i dderbyn a hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc.

“Mae gan brentisiaethau rôl allweddol o hyd i sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Bydd meddu ar gronfa o dalent yn helpu i sicrhau bod gan unigolion a busnesau ledled Cymru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i helpu i brofi’r lefelau twf yr oeddem yn eu mwynhau cyn y pandemig, unwaith eto.”

Meddai Caryl Griffiths, Cydlynydd Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Prentisiaethau a Graddedigion Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf , “Mae ein Cynllun Prentisiaethau wedi bod yn rhedeg ers Medi 2012. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi cyflogi dros 200 o Brentisiaid ar draws y Cyngor mewn gwahanol feysydd gwasanaeth. Mae ein prentisiaid yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Cyngor profiadol yn ennill profiad a gwybodaeth werthfawr. Ynghyd â chefnogi ein prentisiaid i ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, rydyn ni’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddilyn yr yrfa o’u dewis.”

“Yn Nhachwedd 2018 gwnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf ennill gwobr Cyflogwr y Flwyddyn yng ngwobrau Prentisiaethau Cymru am ein rhaglen Prentisiaethau arbennig – gwobr rydyn yn falch iawn ohono. Ers hynny mae’r rhaglen wedi parhau i ehangu gan ymgorffori mwy o feysydd gwasanaeth a chynnig prentisiaeth mewn gwahanol fathau o swyddi ehangach.”

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop