Llwybr hyfforddiant galwedigaethol yn gweddu i’r dim i Charlotte

29 Apr 2019 News Learners

I’r gwyddonydd data Charlotte O’Brien, sydd wedi cyrraedd un o restrau byrion Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) 2019, mae’r holl rifau’n dechrau gwneud synnwyr!

Dechreuodd Charlotte ei gyrfa yn y Campws Gwyddor Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ar ôl cwblhau ei Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Dadansoddi Data chwe mis yn gynt na’r disgwyl, cafodd ei gwobrwyo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyda swydd barhaol.

Dilynwyd hynny gyda dyrchafiad dros dro am chwe mis i fod yn Uwch Swyddog Gweithredol, ac mae Charlotte bellach yn gweithio fel rhan o dîm yn yr adran Dulliau ac Ymchwil Incwm Gwladol Crynswth. Mae hyn yn golygu gwella’r modd y caiff Cyfrifon Cenedlaethol eu crynhoi, sy’n flaenoriaeth o bwys i’r Gr?p Ystadegau Economaidd yn y flwyddyn nesaf.

Mae ymdrechion Charlotte wedi cael eu cydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer yng nghategori Dysgwr y Flwyddyn (Lefel Uwch) yng Ngwobrau VQ eleni. Gwobrau yw’r rhain sy’n rhoi clod i unigolion a sefydliadau am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

Ei hoffter o fathemateg ac economeg a arweiniodd Charlotte, sy’n 25 oed, i’r brifysgol. Ond penderfynodd yn go sydyn y byddai astudiaethau galwedigaethol gydag ALS Training yng Nghaerdydd yn gweddu’n well i’w hanghenion dysgu hi. Mae pethau wedi mynd o nerth i nerth iddi ers hynny.

Mae Charlotte bellach yn helpu i roi cyrsiau hyfforddi ar Ddadansoddi a Chyflwyno Data i staff y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n fodd o wella safonau yn y sefydliad. Mae hi hefyd wedi dod yn llysgennad STEM i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n golygu ymweld ag ysgolion a cholegau lleol i sôn am ei thaith alwedigaethol.
Mae ei llwybr dysgu ei hun wedi’i harwain i astudio gradd yn yr ail flwyddyn mewn Mathemateg ac Economeg yn y Brifysgol Agored. Mae’n gobeithio y bydd hynny’n sicrhau lle iddi ar y cwrs Gradd-brentisiaeth newydd mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn ddiweddarach eleni.

Meddai Alison Adams, sy’n Rheolwr Academaidd yn y Campws Gwyddor Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, am Charlotte: “Mae ei thaith drwy’i phrentisiaeth i gael swydd barhaol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn ysbrydoledig. Mae Charlotte yn ymroddedig ac yn uchelgeisiol, ac mae ganddi amcanion clir i’w gyrfa. Mae hi’n byrlymu o bositifrwydd, ac mae’n llawn afiaith.”

Meddai Charlotte: “Mae’r brentisiaeth wedi bod yn llwyfan imi allu gwneud cynnydd a rhannu sgiliau dadansoddi gwerthfawr â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ynghyd â’r gymuned ehangach.”

Meddai Richard Basset, Rheolwr Cynllunio a Darparu Rhaglenni yn ALS Training: “Mae Charlotte yn dangos beth sy’n bosibl drwy ddysgu galwedigaethol. Mae hi wedi achub ar bob cyfle i ddysgu, gan ddangos gwerth y dysgu hwnnw i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. A hithau wedi cael dyrchafiad ddwywaith mewn blwyddyn, mae hi’n gyfrifol am elfennau o rai o’r ystadegau pwysicaf sy’n cael eu creu i lywodraeth y DU.”

Bellach yn eu deuddegfed blwyddyn, mae Gwobrau VQ yn dathlu’r rheini sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo. Mae Gwobr Cymwysterau Galwedigaethol – VQ – yn arwydd o ymroddiad tuag at eich proffesiwn chi. Mae’r gwobrau’n ein helpu i ddathlu’r dysgwyr, yr hyfforddwyr a’r cyflogwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn mynd gam ymhellach wrth ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

Mae gwobrau’n cael eu rhoi mewn pedwar categori – Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Canolradd), Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch), Hyfforddwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Mae’r rhain yn cwmpasu holl sbectrwm dysgu, hyfforddiant a chyflogaeth.

Hefyd ar y rhestr fer yn y categori Dysgwr Uwch y mae Jonathan Thomas a Reagan Locke.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar Fai 15. Seremoni yw hon sy’n cyd-fynd â Diwrnod VQ, diwrnod sy’n dathlu llwyddiannau galwedigaethol a manteision dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol, a hynny i unigolion ac i economi Cymru.

Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cyfrannu at gyllid Llywodraeth Cymru.

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop