Hyfforddiant galwedigaethol yn sbardun i gynnydd mewn gyrfa

29 Apr 2019 News Learners

Ac yntau wedi cyrraedd un o restrau byrion Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) 2019, mae Jonathan Thomas – neu JT fel y mae ei gydweithwyr yn DAS Legal Expenses yng Nghaerffili a Bryste yn ei adnabod – wedi dilyn llwybr dysgu galwedigaethol ers iddo adael yr ysgol, a hynny dros 30 mlynedd yn ôl.

Dechreuodd y tad 50 oed ei yrfa yn prosesu hawliadau yn DAS, cyn dringo i fod yn Hyfforddwr, yn Arweinydd Tîm, ac yn Rheolwr Cynorthwyol. Mae bellach yn Rheolwr y Ganolfan Gyswllt. Ymhlith ei lwyddiannau diweddar y mae ennill Diploma NVQ Lefel 5 ILM mewn Rheoli ac Arwain, Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, a gradd Sylfaen mewn Arfer Proffesiynol Cymhwysol. Enillodd y rhain i gyd gydag ALS Training yng Nghaerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Drwy ei hyfforddiant diweddaraf, mae Jonathan wedi datblygu sgiliau mewn datrys problemau, siarad cyhoeddus, ac arwain prosiectau busnes. Yn bwysicach na dim, mae ei allu i fynd i’r afael ag elfennau aneffeithlon yn y busnes wedi arwain at newidiadau sefydliadol sylweddol. Mae hyn wedi gwella prosesau a’r modd y caiff adnoddau a staff eu defnyddio, wedi newid y diwylliant gan roi hwb i ysbryd a lles y staff, ac wedi esgor ar sawl prosiect optimeiddio sydd wedi arwain at arbedion o dros £600,000 i’r cwmni o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Mae ei ymdrechion wedi cael eu cydnabod wrth iddo gyrraedd y rhestr fer yng nghategori Dysgwr y Flwyddyn (Lefel Uwch) yng Ngwobrau VQ eleni. Gwobrau yw’r rhain sy’n rhoi clod i unigolion a sefydliadau am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

Meddai Tony Coram o DAS, Cyfarwyddwr Gr?p Gweithrediadau Cwsmeriaid a TG: “Mae Jon wedi bod yn hollbwysig wrth ysgogi newid, ac mae dysgu galwedigaethol wedi ychwanegu gwir werth at hyder Jon a’i ddull o reoli.”

Mae Jonathan yn awyddus i ddiolch i’w deulu: “Rwyf wedi gorfod aberthu llawer yn ystod fy astudiaethau, a fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth fy nheulu, fy nghyflogwyr ac ansawdd yr hyfforddiant gan ALS.”

Meddai Sean Driscoll, Rheolwr Tîm yn ALS Training: “Mae ymroddiad Jonathan i ddysgu ac i’w ddatblygiad personol a phroffesiynol wedi golygu ei fod yn batrwm o ddysgwr. Mae wedi manteisio i’r eithaf ar botensial ei ddysgu galwedigaethol.”

Bellach yn eu deuddegfed blwyddyn, mae Gwobrau VQ yn dathlu’r rheini sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo. Mae Gwobr Cymwysterau Galwedigaethol – VQ – yn arwydd o ymroddiad tuag at eich proffesiwn chi. Mae’r gwobrau’n ein helpu i ddathlu’r dysgwyr, yr hyfforddwyr a’r cyflogwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn mynd gam ymhellach wrth ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

Mae gwobrau’n cael eu rhoi mewn pedwar categori – Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Canolradd), Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch), Hyfforddwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Mae’r rhain yn cwmpasu holl sbectrwm dysgu, hyfforddiant a chyflogaeth.

Hefyd ar y rhestr fer yn y categori Dysgwr Uwch y mae Charlotte O’Brien a Reagan Locke.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar Fai 15. Seremoni yw hon sy’n cyd-fynd â Diwrnod VQ, diwrnod sy’n dathlu llwyddiannau galwedigaethol a manteision dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol, a hynny i unigolion ac i economi Cymru.

Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cyfrannu at gyllid Llywodraeth Cymru.

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop