Ydych chi’n edrych am waith, ond angen cymorth ychwanegol i ennill sgiliau a phrofiad?

Os felly, gallwn ni eich helpu!

Mae ALS, un o asiantau recriwtio a hyfforddi mwyaf blaenllaw y DU, wedi cael ei gontractio gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd; menter newydd i gefnogi oedolion di-waith sydd dros 18 oed i ennill y sgiliau a’r profiad sydd angen arnynt i gael gwaith.

Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyfl ogadwyedd ar eich cyfer CHI fel ceisiwr gwaith.

Bydd ALS yn dyfeisio Cynllun Cyflogadwyedd wedi ei deilwra ar eich cyfer chi i’ch helpu chi ennill y profiad a’r sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr. Byddwn yn rhoi cymorth i chi ddod o hyd i leoliad gwaith o safon sy’n berthnasol i’ch nodau a’ch uchelgeisiau chi o fewn busnesau addas.

Mae eich cynllun cyflogadwyedd yn unigryw i chi a gallai hefyd gynnwys:

  • Hyfforddiant a datblygu sgiliau hanfodol
  • Cymorth gydag ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, technegau ar gyfer chwilio am swyddi
  • Hyfforddiant sgiliau galwedigaethol
  • Hyfforddiant yn y gwaith

I gael gwybod os ydych yn gymwys am y cyfl e hwn, cysylltwch â’ch Hyff orddwr Gwaith heddiw a gofyn I gael eich cyfeirio at ALS ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Cyfl ogadwyedd.

ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop