Hoffech chi ddod yn brentis?

Os oes gennych syniad da i ble yr hoffech fynd gyda’ch gyrfa ac os ydych yn hoffi’r syniad o ennill arian wrth ichi ddysgu, efallai mai prentisiaeth yw’r ateb ichi. Ar y llaw arall, os buoch yn gweithio yn eich rôl am beth amser ac os hoffech achredu’r sgiliau a’r cymhwysedd rydych wedi’u meithrin, gall prentisiaeth roi cymhwyster cydnabyddedig ichi.

Mae rhaglenni prentisiaeth ar gael yn y llwybrau gyrfaol canlynol trwy ALS:

  • Gwasanaethu cwsmeriaid
  • Gweinyddiaeth
  • Adwerthu
  • Canolfan gyylltu
  • Darparu gwasanaethau ariannol 
    (yswiriant cyffredinol)
  • Darparu gwasanaethau ariannol 
    (bancio)
  • Rheolaeth / arwain timau
  • Dosbarthu & gwaith warws
  • Dysgu & datblygu
  • Gofal

 

Mae prentisiaid ALS yn mwynhau nifer o fanteision, sy’n cynnwys:

  • Ennill cyflog tra’n hyfforddi ar gyfer gyrfa
  • Ennill cymhwyster cydnabyddedig sy’n gy sylltiedig â’u dewis o yrfa
  • Dysgu sgiliau go iawn dros gyfnod o amser – mae’n golygu dangos cymhwysedd wrth weithio yn hytrach nac astudio ar gyfer arholiad untro

Mae'n rhaid i'r prentis fod yn:

  • 16+ oed
  • Gweithio bum niwrnod yr wythnos yn eich cwmni (uchafswm o 40 awr)
  • Cael eu cyflogi ar gontract Prentisiaeth
  • Derbyn o leiaf £4.81 yr awr (am flwyddyn gyntaf eu prentisiaeth o leiaf, ac yna, os yn berthnasol, derbyn tâl yr awr sy'n unol â'r isafswm cyflog cenedlaethol)
  • Cael cyfle i gwblhau cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant

Find out more information on our Apprenticeship vacancies.

ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop