Diweddariad Coronafeirws

Y wybodaeth a'r arweiniad diweddaraf i ddysgwyr, staff ac ymwelwyr

Yn dilyn cyfyngiadau diweddaraf y llywodraeth, mae'r holl ddarpariaeth yn digwydd o bell ar-lein ar hyn o bryd.  

Canllawiau i Ddysgwyr

RYDYN NI YMA I CHI!

Bydd yr holl ddarpariaeth yn parhau o bell ar-lein, hyd nes y bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru gydag ymweliadau cyflogwyr yn cael eu gohirio ar hyn o bryd. I'r dysgwyr hynny sy'n mynychu arholiadau a phrofion hanfodol yn Ocean Park House (OPH) bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ein hystafelloedd sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau COVID-19.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau eich bod yn parhau â'ch taith ddysgu gydag ALS, ac yn gallu cael gafael ar unrhyw gymorth y gallech chi fod ei angen yn ystod y cyfnod heriol hwn.


Rydym yn deall y bydd eich wythnos ddysgu yn wahanol am gyfnod ac efallai y byddwch gartref ar aelwyd brysur, yn cydbwyso eich dysgu gyda gofal plant, gofalu am aelodau o'r teulu neu ymrwymiadau eraill. Yn ystod yr amser hwn, mae ein ffocws ni arnoch chi, eich dysgu, a’ch iechyd a’ch lles. Dylech gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'ch Ymgynghorydd Hyfforddi, a rhowch wybod i ni os ydych chi angen unrhyw gymorth pellach.

PARHAU Â’CH DYSGU AR-LEIN...

Gyda chefnogaeth ac arweiniad eich Ymgynghorydd Hyfforddi a'r defnydd o'n systemau e-ddysgu a'n hystafelloedd dosbarth rhithwir, gallwch barhau â'ch dysgu ar-lein. Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau y gallwch ddysgu o bell, datblygu eich sgiliau, a symud ymlaen drwy eich cymhwyster. 

COFRESTRU’N DDIGIDOL...

Mae hyfforddiant wedi'i Ariannu'n Llawn yn dal i fod ar gael i chi. Gallwch ddechrau cymhwyster gyda ni unrhyw bryd drwy ein proses cofrestru digidol. Bydd ein tîm cyflawni yn eich tywys drwy'r broses.

Canllawiau ar gyfer Staff

Mae canllawiau penodol i staff ar gael yma.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Rydym yn annog yr holl staff, dysgwr ac ymwelwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor a'r arweiniad mwyaf diweddar sy'n ymwneud â Coronafeirws.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys ei symptomau, diogelu eich hun a chyngor hunanynysu, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

 

ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop