Twf Swyddi Cymru+

Pan fyddwch yn cyflogi person ifanc di-waith rhwng 16 ac 19 oed trwy raglen TSC+, byddwn yn talu hyd at 50% o gostau cyflog pob person ifanc, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, hyd at uchafswm o 40 awr am y chwe mis cyntaf.

Pwy sy'n gymwys?

Mae ein Llinyn Cyflogaeth ar gael i unrhyw fusnes mewn unrhyw ddiwydiant ar draws Cymru. Mae'n rhaid i chi allu cynnig o leiaf 16 awr yr wythnos i berson ifanc, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, am o leiaf chwe mis.

Rhaid i unrhyw swyddi newydd sy'n cael eu creu fod yn ychwanegol at eich gweithlu presennol ac mae'n rhaid i chi fod yn ymrwymedig i barhau a chyflogaeth y person ifanc ar ôl i'r rhaglen orffen.

Beth yw’r buddion i chi?

  • Byddwn yn talu 50% o gyflog pob person ifanc hyd at uchafswm o 40 awr yr wythnos
  • Cymorth a chyngor recriwtio
  • Cymorth mentora parhaus trwy gydol y 6 mis
  • Cynhyrchu llif o dalent ifanc gyda'r sgiliau, y cymwysterau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i ddatblygu eich busnes.
  • Dilyniant i hyfforddiant posibl yn y dyfodol

I gael gwybod mwy, cysylltwch â ni yma.

*Mae TSC+ yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi'i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop