Pan fyddwch yn cyflogi person ifanc di-waith rhwng 16 ac 19 oed trwy raglen TSC+, byddwn yn talu hyd at 50% o gostau cyflog pob person ifanc, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, hyd at uchafswm o 40 awr am y chwe mis cyntaf.
Mae ein Llinyn Cyflogaeth ar gael i unrhyw fusnes mewn unrhyw ddiwydiant ar draws Cymru. Mae'n rhaid i chi allu cynnig o leiaf 16 awr yr wythnos i berson ifanc, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, am o leiaf chwe mis.
Rhaid i unrhyw swyddi newydd sy'n cael eu creu fod yn ychwanegol at eich gweithlu presennol ac mae'n rhaid i chi fod yn ymrwymedig i barhau a chyflogaeth y person ifanc ar ôl i'r rhaglen orffen.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â ni yma.
*Mae TSC+ yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi'i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop