Datblygu sgiliau cyflogadwyedd i bobl yng Ngogledd Cymru

Mae ALS, un o asiantau recriwtio a hyfforddi mwyaf blaenllaw’r DU wedi cael ei gontractio gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd; menter newydd i gefnogi oedolion di-waith sydd dros 18 oed i ennill y sgiliau a’r profiad sydd angen arnynt i gael swydd.

Rydym yn credu y gallwch chi, fel busnes blaenllaw a chyflogwr parchus, wneud gwahaniaeth drwy gynnig lleoliadau gwaith o safon, a neu gyfleoedd hyfforddi, i rai sydd â’r cymhelliant a’r agwedd gywir i weithio, ond nad ydynt yn meddu ar y sgiliau a’r profiad angenrheidiol.

Sut mae’n gweithio?

Bydd ALS yn cyfarfod gydag oedolion di-waith dros18 oed sy’n awyddus i gael gwaith, ond yn cael trafferth i ennill y profiad perthnasol. Bydd pob unigolyn yn derbyn Cynllun Cyflogadwyedd wedi’i deilwra ar eu cyfer, wedi ei ysgrifennu a’I reoli gan ALS, a byddant yn cael eu lleoli o fewn busnesau blaenllaw fel eich un chi.

Mae dwy ffordd y gallech chi fel cyflogwr elwa o’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd.

1. Ydych chi’n gallu cynnig Lleoliadau profiad gwaith?

Rydym yn deall bod rhai busnesau yn teimlo bod cynnig lleoliadau profiad gwaith yn cymryd amser, fodd bynnag, ALS bydd yn gwneud y gwaith i gyd gyda’r rhaglen hon a byddwn yn darparu’r holl gymorth sydd ei angen i’r unigolyn ac i’ch busnes chi.

Manteision i’ch busnes:

  • ALS sy’n rheoli’r broses recriwtio ar gyfer pob unigolyn a byddwn yn recriwtio’r unigolion mwyaf addas ar gyfer eich sefydliad chi
  • Mae pob Cynllun Cyflogadwyedd yn cael ei ysgrifennu yn bwrpasol ar gyfer pob ceisiwr gwaith, felly byddwch yn gweld eu hymrwymiad llawn wrth weithio yn eich busnes
  • Rydym hefyd yn ysgrifennu cynllun profiad gwaith yn unol ag anghenion eich busnes I wneud y gorau o bob cyfle
  • Rydym yn cynnal sesiynau mentora rheolaidd I sicrhau bod pawb yn fodlon ar y gweithgaredd a’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni drwy gydol y broses, ac yn gallu cynnig hyfforddiant pellach, lle bo hynny’n berthnasol, er mwyn datblygu unrhyw fylchau mewn sgiliau a nodwyd
  • Mae lleoliadau gwaith yn darparu cyfleoedd recriwtio cost-effeithiol yn y tymor hir, ac os yw’r lleoliad yn arwain at gyfleoedd parhaol, byddwn yn parhau i’ch cefnogi gyda hyfforddiant a mentora pellach
  • Ac yn olaf, rydych wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth i unigolion lleol ac i weithlu’r dyfodol yng Nghymru
2. A oes gennych chi nifer fawr o swyddi gwag yr hoffech eu llenwi o fewn eich busnes?

Os ‘oes’ yw’r ateb, yna gallem ddatblygu rhaglen hyfforddiant pwrpasol sy’n para hyd at 8 wythnos, i’ch helpu chi i baratoi ymgeiswyr ar gyfer cyflogaeth o fewn eich busnes. Bydd ALS yn dylunio’r rhaglen gyda chi a, gyda chymorth gan y Ganolfan Waith lleol, yn nodi ymgeiswyr sydd â diddordeb. Gyda’n gilydd gallwn gynnig y dull pwrpasol hwn i recriwtio talent y dyfodol. Eich rôl chi yw gweithio gyda ni i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael y cyfleoedd gorau i ennill cyflogaeth gyda’ch cwmni drwy roi profiad gwaith iddynt yn ystod yr 8 wythnos, a sicrhau cyfweliad i ymgeiswyr ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Os byddant yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i’ch cefnogi chi a’r unigolyn yn ystod eu tri mis cyntaf o gyflogaeth.

A hoff ech wybod mwy?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu’n teimlo y gallai eich busnes gynnig lleoliad gwaith o safon i geisiwr gwaith brwd, yna cysylltwch.

ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop