Disgrifir Gareth Lewis fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith "eithriadol," sy'n ysbrydoli ei ddysgwyr a'i gydweithwyr drwy ei angerdd a'i ysfa dros ddysgu a'i ymrwymiad i'r diwydiant yswiriant.
Mae Gareth, 55, o Hirwaun, yn aseswr gyda thîm gwasanaethau ariannol ALS Training yng Nghaerdydd. Mae'n rhagori yn y ffordd y mae'n darparu Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Yswiriant, ac mae 80% o'i ddysgwyr yn pasio.
Gan fwynhau pob her, Gareth yn aml yw'r pwynt cyswllt cyntaf o fewn y tîm gwasanaethau ariannol i gael cyngor ac arweiniad ar ymholiadau technegol a darpariaeth, ac mae hefyd yn hyfforddi a mentora aelodau newydd o'r tîm.
Bellach mae Gareth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.
Mae'r gwobrau, sy'n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Ei gryfderau yw ei allu i ysgogi pobl i gredu y gallant gyflawni beth bynnag a ddymunant, ac addasu darpariaeth ddysgu yn ôl gofynion dysgwyr unigol.
Yn ystod pandemig Covid, datblygodd ei sgiliau digidol a gweithiodd yn agos gyda chyflogwyr i ddylunio deunyddiau ac adnoddau pwrpasol i gyflwyno gweithdai o bell i ddysgwyr. Mae hyn wedi arwain at ddysgu cyfunol, lle mae'r hyfforddiant bellach yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb ac o bell.
Mae hefyd yn rhagori o ran cefnogi dysgwyr sy'n profi heriau iechyd meddwl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ymunodd Gareth ag ALS Training dros 15 mlynedd yn ôl, ar ôl rheoli swyddfa yswiriant masnachol fach cyn hynny, lle bu'n coetsio a hyfforddi staff.
Mae wedi ennill cyfres o gymwysterau i wella ei wybodaeth a'i sgiliau, gan ddechrau gyda Phrentisiaeth mewn Dysgu a Datblygu a Thystysgrif Lefel 3 CII mewn Yswiriant, a symud ymlaen i gael Diploma Lefel 4 gan y Sefydliad Yswiriant Siartredig a gwblhaodd fis Tachwedd diwethaf (2023).
Dywedodd Melanie Hodgson, rheolwr llwybrau yn ALS Training: "Mae Gareth yn ymarferydd eithriadol sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i wella gyrfaoedd dysgwyr a'r llwybrau sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Mae'r adborth rhagorol gan ddysgwyr a chyflogwyr yn siarad drosto'i hun."
Dywedodd Gareth: "Dw i'n mwynhau fy swydd ac mae gweld y dysgwyr yn datblygu ac yn gwneud cynnydd yn rhoi boddhad i mi. Dw i'n rhoi llawer o amser i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ymchwil am ei fod yn rhoi gwybodaeth dechnegol gadarn i mi allu cefnogi'r dysgwyr."
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gareth a phawb arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol. “Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol.
“Mae eu dycnwch, eu hangerdd a'u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i'n dymuno pob lwc i bob un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol - ar gyfer y gwobrau a'u hymdrechion yn y dyfodol."
“Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: "Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.
“Mae prentisiaethau'n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy'n newid yn gyson.
“Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.