Mae’r darparwr hyfforddiant blaenllaw, ALS, wedi’i achredu gyda Safon Matrics sy’n dangos ansawdd uchel eu gwasanaethau Cyngor ac Arweiniad (IAG) (gan weithio’n ddiduedd ac yn rhad ac am ddim) wrth cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial gyrfaol.
Sefydlwyd ALS yn 2001, ac maen nhw’n dylunio ac yn darparu ystod gynhwysfawr o atebion hyfforddi a datblygu, gan wasanaethu anghenion hyfforddi unigol cyflogwyr a gweithwyr. Wedi’i leoli yn Ocean Park House ar East Tyndall Street, daeth ALS yn rhan o Grŵp CAVC yn 2016.
Y Safon matrics yw’r safon ansawdd ryngwladol ar gyfer sefydliadau sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad (IAG), naill ai fel eu hunig ddiben neu fel rhan o’r gwasanaeth a gynigir ganddynt.
Dywedodd Roger Chapman, Pennaeth y Gwasanaeth matrics ar gyfer The Growth Company:
“Mae hyn yn gyflawniad gwych i ALS a hoffwn longyfarch y tîm ar eu llwyddiant. Rydym ni’n credu bod arweinyddiaeth gref, gwasanaeth rhagorol a ffocws ar welliant parhaus wrth wraidd gwasanaethau cyngor a chymorth o ansawdd uchel, i gyd wedi’u hategu gan ddefnydd effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael. Cynlluniwyd y Safon matrics i feincnodi sefydliadau yn erbyn arfer gorau yn y meysydd hyn. Gyda’u llwyddiant achredu, mae ALS yn gweithio i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’w cleientiaid.”
Wrth sôn am y wobr, dywedodd Helena Williams, Cyfarwyddwraig ALS: “Rydym ni’n falch iawn o gyrraedd y Safon Matrics unwaith eto sy’n feincnod ansawdd rhagorol ac yn asesiad annibynnol o’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel yr ydym yn ei gynnig i’n dysgwyr a’n cleientiaid.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Safon Matrics ewch i www.matrixStandard.com
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag ALS ar 029 2267 7020 neu info@alstraining.org.uk