Fel prentis byddwch yn ennill cyflog wrth ichi dderbyn hyfforddiant. O’r diwrnod cyntaf byddwch yn datblygu eich sgiliau ac yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Mae’n ddewis da o ran gyrfa boed yn gadael ysgol neu goleg, yn dychwelyd i’r gweithle ar ôl cael teulu neu’n edrych am gyfleoedd newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n cynnig cyfleoedd unigryw yng Nghymru.
Mae gennym amrywiaeth eang o swyddi ar gael.
Mae gennym hyd at 50 o leoedd ar gael ledled Cymru gyda rhestr wrth gefn am 12 mis.
Ennill 21,300 y flwyddyn wrth dderbyn hyfforddiant. Cewch 31 diwrnod o wyliau, 10 gŵyl banc ac rydym yn cynnig oriau hyblyg i’ch helpu i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Astudiwch ar gyfer cymhwyster lefel 3 mewn Cyllid, Data a Thechnoleg Ddigidol neu Weinyddiaeth Busnes.
Datblygu amrywiaeth o sgiliau.
Sicrhewch y profiad gwaith gorau posibl ac un diwrnod hyfforddi bob mis. Mae prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn rai 18 mis.
Gwneud Cais yma neu Swyddi Prentis Gwag