Adeiladu economi gref, hyrwyddo annibyniaeth a bywydau cadarnhaol i bawb a chreu cymdogaethau y mae pobl yn falch o gael byw a gweithio ynddyn nhw – dyna rai o amcanion craidd Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi ennill gwobr genedlaethol bwysig.
Enwyd y cyngor yn Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.
Dywedodd rheolwr cyflogaeth, addysg a hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf, Sian Woolson: “Rŷn ni wrth ein bodd o gael ein cydnabod am ein gwaith gyda’n dysgwyr. Mae’r wobr yn dweud wrthym ein bod yn gwneud gwaith ardderchog.
“Yn y dyfodol, y bwriad yw buddsoddi mwy a chynnig mwy o gyfleoedd i ragor o ddysgwyr, yn cynnwys ein gweithwyr presennol a rhai newydd.”
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Un rhan ganolog o ethos y cyngor yw’r rhaglen Brentisiaethau sy’n cynnig cyfle i’r prentisiaid ddysgu a datblygu mewn sefydliad deinamig sy’n edrych tua’r dyfodol.
Mae’r cyngor yn cydweithio â nifer o bartneriaid allanol, yn cynnwys Coleg Pen-y-bont, ALS a Choleg y Cymoedd, i gynnig dros 20 o Brentisiaethau mewn gyrfaoedd amrywiol fel peirianneg, garddwriaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, ffitrwydd, mecaneg, a sain a goleuo technegol a llwyfannu.
Yn 2012, gan fod y gweithlu’n heneiddio, gwelodd y cyngor bod angen datblygu gweithwyr profiadol wedi’u hyfforddi i safon uchel rhag iddynt wynebu sefyllfa gyda phrinder sgiliau a phrinder staff yn y dyfodol.
Mae dwy elfen i’r broses, yn gyntaf, gosod yr 85 prentis sydd gan y cyngor ar hyn o bryd i gydweithio â mentoriaid profiadol a chydlynydd i’w helpu i ddatblygu’n unigolion medrus iawn sydd â rhagolygon am yrfa faith gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.
Yn ail, datblygu profiad a gwybodaeth er mwyn helpu i ostwng lefelau diweithdra a phrinder sgiliau ledled y fwrdeistref.
Mae gan randdeiliaid allanol ran allweddol i’w chwarae yn y Prentisiaethau dwy flynedd ac, yn ddiweddar, bu’r cyngor yn cydweithio ag undeb lafur y gwasanaethau cyhoeddus, Unsain, i greu Siarter Brentisiaethau arloesol.
Meddai Sian Woolson: “Rydyn ni’n edrych ar Brentisiaeth fel dechrau taith sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. O ganlyniad i hynny, mae dros 90% o’n prentisiaid yn cael cyfleoedd pellach i weithio ac i ddysgu ac mae’r mwyafrif mawr yn aros gyda ni.”
Oherwydd llwyddiant y rhaglen, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datblygu gweithdai mewn ysgolion uwchradd ac yn cydweithio â Chyngor Merthyr Tudful ar raglen recriwtio ar y cyd.
Llongyfarchwyd Cyngor Rhondda Cynon Taf a phawb oedd yn y rownd derfynol a’r enillwyr yn arbennig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, am osod safon aur ar gyfer Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau.
Canmolodd y Gweinidog y cyngor am fynd yr ail filltir i gefnogi prentisiaid ac am ei ymrwymiad i’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.
“Mae Prentisiaethau’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o Brentisiaethau pob-oed o safon uchel yn ystod tymor presennol y Cynulliad,” meddai’r Gweinidog.
“Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru, datblygu llwybrau sgiliau a chynyddu sgiliau lefel uwch er budd Cymru gyfan. Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod gan Gymru weithlu sydd gyda’r gorau yn y byd.”