Prentisiaeth yn rhoi hwb i sgiliau a hyder Corinna

29 Oct 2018 Blog Learners

Dywed Corinna Roberts fod cwblhau ei phrentisiaeth wedi rhoi hwb mawr i’w hyder a’i sgiliau ac wedi dod â gwerth a syniadau newydd i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yng Nghasnewydd lle mae’r fam ifanc yn gweithio.

Llwyddodd Corinna, 26 oed, sy’n byw yn Nhonypandy, i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes ac i sicrhau swydd barhaol yn y Gwasanaeth Sifil, gan ymdopi ar yr un pryd â chyfrifoldebau bod yn rhiant a dysgu rheoli ei hiechyd meddwl.

Gyda chefnogaeth y darparwr hyfforddiant ALS Training, mae’n bwriadu parhau i ddysgu trwy symud ymlaen naill ai i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) neu i gymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu gan y Brifysgol Agored.

Yn awr, cafodd ymroddiad Corrina i ddysgu ei gydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Pan ymunodd Corinna â’r IPO roedd yn ymgodymu ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) difrifol, gorbryder ac iselder ond erbyn hyn mae’n helpu pobl eraill fel swyddog amrywiaeth a chynhwysiant ac mae wedi sefydlu’r rhaglen gyntaf o’i math ym maes ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Ar ôl cael ei hyfforddi’n hyrwyddwr iechyd meddwl ac yn gynrychiolydd cynghreiriaid ar gyfer y rhwydwaith LGB, mae wedi cynnal sesiynau ymwybyddiaeth gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol a Thŷ’r Cwmnïau.

Hi oedd prentis cyntaf yr IPO i weithio rhan amser o gartref ond llwyddodd i gwblhau’r rhaglen yr un pryd â’r lleill er ei bod yn gorfod jyglo cyfrifoldebau bod yn rhiant a phroblemau iechyd.

“Oherwydd y profiadau a gefais cyn ymuno â’r rhaglen brentisiaeth, roeddwn yn credu na allwn gyflawni dim mewn bywyd ond rwy wedi profi i fi fy hunan ac eraill nad yw hynny’n wir,” meddai Corinna.

“Rwy’n fwy hyderus, rwy wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi dod â gwerth a syniadau ffres i’r IPO. Efallai na fyddai hynny wedi digwydd heblaw am y brentisiaeth.”

Dywedodd Elaine Short, arbenigwr talent a dysgu yr IPO: “Mae Corrina wedi cael profiad o nifer o wahanol swyddi yn ystod ei phrentisiaeth ac mae wedi gwneud yn ardderchog gyda phob newid gn ddangos ei bod yn hyblyg ac yn dysgu’n gyflym.”

Wrth longyfarch Corrina ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Share
ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop