Cyhoeddiad Cwmni: Mynd i'r afael â Hiliaeth, cynwysoldeb ac amrywiaeth.

Bydd llawer ohonoch wedi darllen neu glywed am lofruddiaeth drasig a chreulon diweddar George Floyd, Breonna Taylor, Ahmaud Arbery, a chymaint o fywydau du eraill yn UDA, a'r ymateb dilynol o bob cwr o'r byd i ddod â hiliaeth i ben unwaith ac am byth gyda'r protestiadau Maw Bywydau Du o Bwys. Rydyn ni i gyd yn gwybod nad problem yn UDA yn unig yw hiliaeth, ond problem fyd-eang.

Rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i ailadrodd bod ALS yn credu'n gryf mewn tegwch, cydraddoldeb a pharch i bob bywyd dynol. Rydym bob amser wedi ystyried cynwysoldeb ac amrywiaeth o ddifrif ac mae cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.

 Yr hyn sydd gennym ar waith

  • Mae ein polisïau cychwynnol ar recriwtio, ymsefydlu staff a hyfforddiant parhaus ar gydraddoldeb ac amrywiaeth staff yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb, ar draws ALS a'n partneriaid.
  • Rydym wedi addo teyrngarwch i'r Cynllun Arweinyddiaeth ac Amrywiaeth, sy'n helpu sefydliadau i sicrhau diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn cael triniaeth deg a chyfartal, waeth beth fo'u cefndir.

Fodd bynnag, rhaid i ni wneud mwy ac rydym yn amlwg yn cydnabod na allwn fod yn hunanfodlon. Gallwn bob amser wneud yn well, ac fel darparwr hyfforddiant addysgol, byddwn yn gwneud hynny.

Beth ydym yn ei wneud yn awr?

Mae perthynas wedi’i hen sefydlu yng Nghymru rhwng tlodi ac ethnigrwydd, fel y gwelwn yn dda iawn wrth addysgu a gweithio gyda rhai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn gwneud y canlynol;

  • Adolygu ein cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cynnwys y materion sydd wedi’u codi drwy ddigwyddiadau diweddar, a'i fod yn ymdrin yn ddigonol â gwahaniaethu o bob math.
  • Estyn allan a gofyn am arweiniad gan sefydliadau eraill a defnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd i'n helpu gyda hyn.
  • Cael cyngor ar sut i wella materion yn ymwneud ag amrywiaeth yn y gweithle.
  • Defnyddio'r wybodaeth a'r data a gasglwyd o'n harolygon o Gwmnïau Gorau, a'n harchwiliadau amrywiaeth mewnol ein hunain, i wella'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu.
  • Ystyried gwella mynediad at raglenni mentora sy'n cynnig cyfleoedd i bobl Dduon, Cynhenid a Phobl o Liw (BIPOC)
  • Cyflwyno Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn ein sefydliadau i hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb.

Mae ALS yn gwbl ymroddedig i'r gwaith tymor hir o herio hiliaeth, ac yn wir pob math o wahaniaethu, fel bod cydraddoldeb yn cael ei gyflawni i bawb.

Rydyn ni bob amser wedi yn hyn gyda’n gilydd, a byddwn o hyd!

Cyfarwyddwyr, ALS

ALS yw'r enw masnachu ar gyfer Apprenticeship Learning Solutions Limited |Rhif cwmni 04217753
ALS Training © 2018 Designed and Developed by Spindogs
Euro social fund Wales

Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop